Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, Jones," meddwn, "gyda phob dyledus barch i'ch pwyll a'ch amynedd, yr wyf o'r farn ei bod yn llawn bryd i chwi ddatguddio cyfrinach y lle hwn i mi."

"O'r gore'," ebe Jones; ac heb ragor o ymdroi, d'wedodd wrthyf enw'r lle ar hyn o bryd. Pe cynygiech ganpunt imi am gofio hwnw, byddech yn eitha' dïogel; ond pan y chwanegodd taw'r hen Heliopolis ydoedd, a dinas On cyn hyny, teimlwn fel pe bawn ar wastad Tywi'n union. Meddienes y lle ar unweth. A dyma lle cafodd Joseph ei wraig! Lle'r oedd tŷ Potiphera', ei dady'nghyfreth, 'sgwn i? A fu Asnath yn cerdded y ffordd hon pan yn ferch ifanc, tybed? Dyma ddarn hirfen, uchel, yn codi o 'mlaen yn syth a sydyn, tebyg i nodwydd Cleopatra, yn llawn saetheirie, heb le i chwi roi eich ewin rhyngddynt.

"Dyma'r unig weddillyn sy'n aros o'r hen amser y ffordd yma," ebe'm cyfell. "Tyhir ei fod yn dair mil o flynydde mewn oedran."

"Os felly," meddwn, wrthyf fy hun yn fwy nag wrth Jones, "bu Moses, a Joseph, ac Abr'am yn syllu ar hwn!"

Troisom yn ol i gyfeiriad arall, ac wedi myn'd i mewn i lecyn cysgodol o'r neilldu, cyfeiriwyd fy sylw at hen bren oedd yn ymddangos yn rhy grin i sefyll ar ei draed. Yr oedd yn ganghenog a llydanfrig, a dyge olion toriade â chyllill drosto 'mhob man, hyd y'nod i'w gangen ucha'. Barnwn fod pob llythyren