Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y'mhob gwyddor ar ei foncyff, ac yn fuan chwaneges ine f'eiddo at y llïaws.

"Be 'di hwn, Jones?" meddwn.

"Hen bren y d'wed traddodiad am dano ddarfod i'r Mab Bychan a'i rieni lechu dan ei gysgod ar eu ffordd i'r Aifft," ebe Jones, sobred a mwnc.

Yn rhyfedd iawn, meddianwyd fi'n union gan deimlade tebyg i'r rhai a ddaethant drosof yn yr hen eglwys ddiwrnod neu ddau cyn hyny. Y Mab Bychan eto? A fu ynte'r ffordd hon? Ar ol teithio mor bell, ai tybed iddo grïo gan flinder dan y goeden, fel rhyw blentyn arall? Pa gân a gane Mair wrth geisio'i lonyddu dan y sêr? A pha sawl angel oedd y'mhob seren yn edrych arno?

Pan dd'es ataf fy hun o'r tir pell hwn, dyna lle'r oedd Jones ar ben y pren yn pocedu'r brige. Es ine'n hy' ar y rhisgl wed'yn. Mae'r brige a'r rhisgl y'Nhreorci bellach er's dros dair blynedd.