PENOD XXII.
❋
AR FIN YR ANIALWCH.
'R rhan fwya' o bobl y Gorllewin, mae'r Aifft yn gyfystyr â dau beth, a deubeth yn unig—y Nile a'r Pyramidie. Ac nid y'nt y'mhell o'u lle. Yr wyf wedi cysegru penod i'r blaena'; beth pe bawn yn cyflwyno darn o hon i'r ola'?
Ni fydde'r hanes y peth y dyle fod heb ynddo gyfeiriad at y Pyramidie. Pwy sy' heb glywed sôn am danynt? Pwy sy' heb wel'd eu llunie? A phwy sy' heb dybied ei fod yn gwybod y cwbl yn eu cylch? Ond dyna sy'n òd— y blynydde diwedda' mae henafiaethwyr wedi d'od o hyd i ben llinyn eu hanes. Os oes rhywun yn gwybod mwy am danynt na neb arall sy'n fyw, dyn o'r enw Petrie yw hwnw. Efe gafodd afel ar y fynedfa i'r 'stafelloedd sy'n y Pyramid mwya', ac efe sy' wedi bod yn darllen ei eis a'i ddeint er mwyn d'od o hyd i'w oedran. Ac eto dywed Petrie nad yw efe wedi meistroli hyd y'nod y wyddor o honynt! Maent wedi herio gwybodeth a dychymyg dyn am filoedd o flynydde, a synwn