Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ddim na pharant i'w herio am filoedd o flynydde i dd'od.

Ond mi adwaenwn ambell un ddigwyddodd dreulio dam diwrnod yn eu golwg, ac a ddaeth adre' i Gymru a'r Pyramidie ar ei fenydd! 'Doedd dim na wydde am danynt. Hwyrach y syne llawer cynulleidfa pe gwydde leied ŵyr y darlithydd trwy sylwadeth bersonol am y pethe y sieryd mor wych a thafod-lithrig am danynt. Nid yw y sylw yna'n ysgubol, ond y mae'n cynwys nifer fwy nag a feddyliech. Mi glywes ragor na siwrne gan ffrindie yn Cairo, taw yn y tŷ lle'r arosent y treulie dau ŵr enwog allaswn enwi, eu hamser c'yd ag y buont yn y ddinas. Nid oedd y ddau yno'r un pryd; ond yr oedd mor anodd codi'r ddau allan o'r tŷ ag oedd i godi'r tŷ dros eu pene. Hwyrach yn fwy anodd. A thaere'r ffrindie dd'wedent y gyfrinach wrthyf, taw ofn oedd yn eu caethiwo felly! Pan yn gwrando arnynt ar lwyfan y ddarlith, hawdd fydde madde i chwi am dybied taw hwy ddarganfyddodd y wlad! Tir cynil yw hwn i gerdded drosto, a rhag ofn ffrwydriade, gwell i mi ymgilio.

Cystal i chwi dd'we'yd eich bod wedi bod yn Llunden heb wel'd St. Paul's, neu yn Llanberis heb wel'd y Wyddfa, a d'we'yd eich bod wedi bod yn yr Aifft heb wel'd y Pyramidie. Felly, mi benderfynes y b'aswn yn treulio peth amser ar fin yr anialwch, lle maent yn sefyll, a'r Sphinx yn warcheidwad drostynt.