Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y llafurwr a phalasdy'r pendefig yn edrych i wynebe'u gilydd—i ganol y wlad, lle mae gwastadedde llwydwyn a gerddi sychedig yn disgwyl am gynhyrfiad y dw'r. Rhed y cerbyde bob cam fin-fin â'r brif-ffordd, ac yma drachefn y cewch y golygfeydd dieithraf. Sgoroedd o gamelod yn dilyn eu gilydd yn un llinyn—rhai yn llwythog o feichie, ac erill heb ond y gyrwr yn eistedd ar yr hwmp. Crëadur cyfrwys yw'r camel. Os gosodir swm mawr o gelfi ar ei gefn, ai tybied yr ydych y caria efe fôd dynol gyda hyny? Na thwyller chwi. Mae camelod at gario celfi i'w cael, a chamelod at gario dynion; ond arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall. Mae camel y celfi yn gwybod ei fusnes i drwch y blewyn; ac os meiddia'r gyrwr ymguddio y'mysg y dodrefn fry, buan y ca ei hun y'nghanol y llwch obry. Mi weles olygfa felly wrth basio'r bore' hwnw. Tybies i fod y dyn wedi ei anafu'n dost, os nad wedi ei ladd; ond ce's brawf i'r gwrthwyneb heb aros yn hir. Rhwng ei flagardieth ef a difyrwch trystiog y finte, 'roedd yno Eisteddfod!

Y'nes y'mlaen, mi glywes ddyn a dynes yn ffraeo mewn gardd, ac yr oedd y ddau'n bur gyfartal yn y gystadleueth. Ni ddeallwn eu geirie, ond deallwn eu symudiade, y rhai o'ent debyg i symudiade pobl y ffordd hon pan wedi ymgolli'n eu pwnc. Cymere fy nghyd-deithwyr ddyddordeb mawr yn yr helynt, a chalonogent y ddynes â bloeddiade a churo dwylo. Ai tybed