Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I ffrae gynta'r byd gymeryd lle mewn gardd? Ai rhwng dyn a dynes y hu hono? Os gwn i a fynodd Adda ac Efa hi allan ar ol gadel Eden? P'run o'r ddau ga'dd y gair ola' tybed? Mi wn i 'sgrechfeydd y ddynes hon ein dilyn am bellder wedi iddi hi a'i Hadda fyn'd o'r golwg. Onid oes rhyw feddylie diddeddf yn tramwy drwy'r galon weithie?

Yr o'em y'nghysgod y Pyramidie o hyd. Tyfent arnom fel y nesem atynt, ac ymddangosent i mi fel pe blotient y ffurfafen i'r cyfeiriad hwnw allan o'r golwg. Ar ol cydredeg am yn agos filldir â'r darn prydfertha o'r ffordd, a choed talion y palmwydd yn tyfu bob ochr iddi o fewn pellder mesuredig i'w gilydd, cyraeddasom yr orsaf. Yr oedd y gwres yn fawr, ond nid yn llethol. Rhuthrwyd i gael tamed o fwyd cyn troedio'r tywod, ond yr oedd yno erill can newynog a nine. Ni weles gynifer o glêr yr un pryd erioed yn fy mywyd. A'r fath glêr! Prin y gwelech y plât, heb sôn am y bwyd arno. Dilynent y tamed i'r gene, ac yr oedd ambell un yno o'i flaen. Nid wyf am wadu na lynces o honynt y pymtheng munud hwnw ddigon i ffurfio gwladfa gysurus. Yr oedd eu sŵn yn boddi'r siarad, a phrysurasom ymaith ar ol talu am y clêr.

Yr o'em yn y tywod er's meityn; ac yr oedd mor sych, a meddal, a thrwchus, nes gwneud cerdded drosto'n gryn dasg. O'r diwedd, dyma ni yn sefyll o flaen y mwya' o'r Pyramidie