Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cheops wrth ei enw. Paham y gelwir ef felly, nis gwn, os nad dyna enw'r dyn a'i cododd. Mae 'beitu haner dwsin o honynt yn sefyll heb fod y'mhell oddiwrth eu gilydd. Gorchuddiant arwynebedd mawr o dir cydrhyngddynt; ac o'r gwaelod i fyny meinhânt yn raddol, nes fod y pwynt ucha'n ymddangos fel llygad aderyn. Gwneir hwy i fyny o gerig hirion a phreiffion, wedi eu trefnu'n risie, y rhai oedd yn gofyn tipyn o hŷd mewn coes i'w cwmpasu. Yr oedd ochre'r hen ffrind Cheops yn frith o deithwyr ar eu ffordd i fyny ac ar eu ffordd i lawr, ac Arabied cyflogedig yn eu helpu. Efe oedd yr unig un a ddringid i'w ben hyd y diwrnod yr o'wn i yno. Bid siwr, yr oedd Jones wedi bod yma droion, ac edryche o'i gwmpas yn ddifater tra'r o'wn i'n agor fy safn o flaen Cheops. Ond yn sydyn, cyfeiriodd fy sylw at un o'r lleill, a gwelwn ddynion ar ben hwnw. Ac erbyn holi, hwy oedd y cynta i'w goncro, o fewn terfyne gwybodeth pawb oedd yn bresenol. Nid diffyg cymhelliad barodd i mi aros i lawr, ond bwrw'r draul a wnes, a oedd genyf ddigon o nerth i'w hebgor i ymgymeryd â'r anturieth. Mi ddes i'r casgliad yn fuan nad oedd, ac ni allodd holl ddonie plant Ismael fy symud.

Heb fod y'mhell o'r gym'dogeth, yr oedd gweddillion teml wedi cael ei dwyn i'r golwg. Es i lawr, a bum yn crwydro am amser drwy'r ystafelloedd a ddygent olion dyddie'r Pharöed—heibio'r colofne trwchus a'r meini mawrion,