Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgripian ar ei draed a'i ddwylo, pan yn ddyn y'nawnddydd bywyd yn cerdded yn unionsyth ar ei ddeudroed, a phan yn henafgwr y'mỳnu ei ffon i'w helpu. Ond 'rwy'n meddwl taw am Sphinx arall tua gwlad Groeg y d'wedir y 'stori yna, er fod hwn yn edrych yn ddigon creulon i ddilyn hobi o'r fath.

Fe ga'dd y Sphinx fwy o effeth arnaf na'r Pyramidie, ac nid heb iase'n ymsaethu drosof yr edrychwn arno dros f'ysgwydd wrth ffarwelio â'r lle. Dyma lle mae anialwch tywodlyd y Swdan yn dechre' o du'r gogledd, ac nid oedd genyf nemor ffansi i'r morgrug duon a'r ysgorpione a redent drosto.