Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XXIII.

YCHYDIG O FRIWFWYD GWEDDILL.

 CHWI gofiwch imi sôn am yr Amgueddfa yn Alecsandria, lle y cedwid y cyrff a gladdesid yn y Bedde Tanddaearol. Yr wyf y'meddwl imi siarad am dani dipyn yn ddirmygus—mai prin oedd ei hatdyniade—taw hyfdra'i swyddogion duon oedd ei nodwedd amlyca'—ac nad oedd yn werth ei chymharu â'i chwaer yn Cairo. Nid wyf am dynu'n ol ddim a dd'wedes. Mae'r un sy' genym y'Nghaerdydd yn ei churo i ffitie. Ond am un Cairo, mae'n sicr nad oes ei rhagorach yn yr holl fyd. Mae ei safle ddaearyddol rhwng y ddinas a'r Pyramidie, mewn pentre' o'r enw Ghizeh.

Es yno un diwrnod gyda Huws, ac nid wyf yn meddwl imi flino nemor mwy erioed ag a wnes y diwrnod hwnw. Cyn diwedd y dydd, mi allwn feddwl fod fy nhraed yn llwythog o falaethe, a gwynegon, a chyrn, gan drymed a phoenused o'ent—fy nghefn fel pe b'ai rhywun wedi rhoi cwlwm ar linyn fy spein—a'm pen yr un fath yn union a phe b'ai'n efel go' mewn pwll glo, a chanoedd o forthwylion mewn llawn