Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waith ar ganoedd o eingione. Pan gofiaf am hyny heddyw, mae fy nychymyg yn bywiogi'n y fan, a bron nad af ar fy llw fod pine bach yn chware' drwy 'nghorff i gyd o'r coryn i'r gwadn. Yr oedd fy ffrind wedi bod yno fagad o weithie o'r blaen, a bydde fynyched ma's a mewn—fynychach yn wir, oblegid gwaherddid ysmygu oddifewn. Mi dybiwn i y bydde caniatau hyny'n welliant mawr. Ga'nad pa mor wrthwynebus i rai pobl yw sawyr y ddeilen ysmygir, mae'n rhaid fod cywreiniad eu ffroene yn òd o eithriadol i beri iddynt ddewis sawyr y lle o'i flaen. Yr oedd hwnw'n drwm anarferol mewn ambell i 'stafell. Yr oedd drymed nes y byddwn dan yr angenrheidrwydd weithie o redeg at y drws i gael newid awyr; a'r prydie hyny, gwelwn Huws ar ei hyd ar un o'r sedde'r tu allan, y'mygu fel Swltan. Parod o'wn i eiddigeddu wrtho; ond gan mai "unweth am byth" oedd f'ymweliad i â'r wlad, yr o'wn yn benderfynol o'i "gwneud" mor llwyr ag y base f'amser a f'amgylchiade'n caniatau. Ac yn ol yr awn bob tro.

Saif yr adeilad ar arwynebedd anferth o dir, ac y mae'r ystafelloedd sydd ynddo'n ddirifedi 'mron. Cerdda Arabied talion i fyny ac i lawr y gwahanol adrane gyda mursendod chwerthinus; mae'n amlwg eu bod yn mawrhau eu swydd y tu hwnt i bobpeth. Croesant eich llwybr i bob cyfeiriad; deuant arnoch gyda sydynrwydd poenus allan o dylle a chornele