Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anhysbys i chwi; a phan y byddwch wedi ymgolli uwchhen gweddillion rhydlyd rhyw hen Pharo' neu gilydd, ond odid na fydd dau neu dri o'r swyddwyr duon hyn wrth eich penelin, yn barod i chwi pytae'n eich bwriad i fyn'd a Pharo' i ffwrdd. Mae diwrnod yn rhy fyr i fyn'd drwy'r lle "ar 'sgawt;" mae wythnos yn rhy fyr i fyn'd drwyddo'n feddylgar. Ceir yma sgoroedd o mummies perffeth, wedi eu casglu o bob cwr o'r Aifft. Mae Rameses yr ail a'r trydydd—Pharoed amser Joseph a Moses—yma'n eu corffoleth, mor debyg a dim i'r darlunie gewch o honynt. Pobl a phen heb galon iddynt, deall heb deimlad, gwareiddiad heb foesoldeb. Nis gallaf byth edrych ar Aifftwr o'r cynoesoedd, ar bapyr nac mewn amdo, heb deimlo iâs yn cymeryd meddiant o f'asgwrn cefn. Ymddengys i mi bob amser yn deip o greulondeb mewn gwaed oer, ac y mae'r llygad llonydd yn eich dilyn i bob man nes eich gwneud yn gaethwas i ofn nas medrwch rhoi cyfri' am dano. Mae yma hen gôfadeilie o dywysogion fuont unweth mewn bri—rhai'n weddol o gyfen, erill heb eu trwyne, a nifer dda heb eu pene. Hen golofne sydd mor llawn o saetheirie fel taw prin y gwelwch ddim arall. Hen ddarne aur o wahanol gyfnode, a hen ddarne arian o wahanol rane o'r wlad. Breichlede, cadwyne, clustdlyse, a darne o waith ede a nodwydd, y rhai oedd wedi bod mewn cistfeini am filoedd o flynydde. Hen femrwne a'u hinc mor glir a'r diwrnod y cawsant eu hys-