Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grifenu; a dillad oddiar gyrff wedi eu perarogli, heb fod fymryn gwaeth i'r golwg. 'Roedd yma lon'd byd o ryfeddode y'mhob ystafell. Ond O, mor iach oedd d'od allan i'r awyr agored, i ymloewi'n yr haul, ac i yfed awelon adfywiol y gerddi!

Wn i yn y byd os ydych yn cofio imi dd'we'yd i Jones a mine fyn'd gyda'r trên i Heliopolis ar brydnawn, lle gwelsom y nodwydd a'r pren. Mi dd'wedes lawer o bethe am y lle hwnw, ond 'rwy'n meddwl imi ollwng dros gof i dd'we'yd taw 'run yw'r wlad hono a Gosen gynt. O leia', dyna'r dybieth; ac y mae cryfach sail iddi nag aml i dybieth debycach i'r gwirionedd. Hwyrach y bydd gwybod cyment a hyna yn 'chwanegu at ddyddordeb yr hanes i rywrai; oblegid mae amryw o bryd i'w gilydd wedi bod yn fy holi i am wlad Gosen, fel pe baent ar fedr ymfudo iddi. Ga'nad beth am hyny, nid dyna wy'n hala ato wrth ymdroi fel yma—ond hyn. Wedi ini gymeryd ein lle yn y cerbyd, a phan oedd y peiriant yn rhoi'r arwydd cychwynol, dyma'r drws yn cael ei agor eilweth, a phererin arall yn cael ei wthio i fewn gan ddwylo duon a lleferydd duach dau neu dri o weision yr orsaf, nes ei fod ar ei ben yn erbyn y drws cyferbyniol. A phe digwyddase hwnw fod yn rhydd o'i glicied—fel y gweles hi lawer gwaith—'does dim dwyweth nad allan y b'ase'r truan yr ochr arall. Ond wedi i'r trên gychwyn, ac iddo ynte gael amser i hel ei hun at ei