Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd, a gosod ei hun ar y sêt yn daclus, cawsom nine amser a chyfleusdra i gymeryd 'stoc o hono. Dyn canol oed oedd, mi dybiwn, a golwg wyllt arno—yn wir, ei lyged a hawlie'ch sylw gynta', yr o'ent ddysgleiried ac aflonydded. Yr oedd twrban gwyn ar ei goryn, ac esgidie melyn am ei draed; dillad gwael am dano, a'r rhai hyny'n cael eu gwneud i fyny o hen lodre canfas wnaed gan ryw deiliwr dorodd ar ei brentisieth cyn dysgu ei grefft, a hen gôt oedd yn profi ffydd Jones a mine i gredu taw côt ydoedd. Ond prin oedd y pilin oedd am dano, a phrinach oedd yr ymborth oedd ynddo. O, yr oedd yn deneu! Siarade âg e'i hun am beth amser—am ei fod yn credu na all'se siarad â neb oedd gallach, meddwn i; am ei fod heb orphen setlo cyflwr y bechgyn a'i gwthiasant i'r cerbyd mor ddiseremoni, medde Jones. Bid fyno, bu'n ddall a byddar i ni am ysped, ac yr oedd sylwade fy ffrind ar ei bersonolieth yn ddoniol. Ond wedi ini basio'r ail orsaf, dyma'r hen frawd at Jones—yr hwn oedd yn eistedd ar yr un fainc ag ef—ac yn clebran wrtho ei ore' â'i dafod ac â'i ddwylo, gan bwyntio ataf fi.

"Be' mae'r hen gna'n 'i ddeud, Jones?" meddwn.

"Mor bell ag yr w i'n gallu ddeall o," ebe ynte, "a 'dydi o ddim yn waith hawdd, mae o am gael gwybod os ydach chi'n ddyn sanctedd."

"Yn ddyn sanctedd! Be' gebyst mae o'n feddwl? A phwy hawl sydd ganddo i ame'n