Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sancteiddrwydd i mwy na'ch sancteiddrwydd ch'i? 'Rwy'n siwr nad w i ddim yn edrych yn fwy digymeriad na chithe, Jones."

"Peidiwch gwylltio," ebe fe; "nid y'ch caritor ch'i, ond y'ch swydd ch'i, mae o'n feddwl."

"O! Ond pa'm mae o wedi fficsio arna' i, mi leiciwn wybod?" A tbybiwn fy mod wedi pinio Jones yn erbyn y wal â'r cwestiwn yna.

"Oblegid eich colar!"

Aethum yn fud, ac nid agores fy ngene. Fy ngholar! Hawyr, pa ddrwg a wnaeth fy ngholar! Un gron oedd, o rywogeth yr Eglwys Sefydledig o goleri, ac nid oedd digon o honi'n y golwg i dynu sylw neb. Heblaw fy mod yn siwr ei bod yn ddyledus i'r twba golchi er's dyddie. Gwelwn y dyn yn edrych arnaf a math o "barchedig ofn" yn ei ymddangosiad, a chyn imi gael amser i estyn allan fy llaw, yr oedd ar ei linie o 'mlaen, ac yn parablu fel dyn yn d'we'yd ei bader. Mi godes ar fy nhraed yn union, ac mi ddangoses y sêt iddo; cododd ynte, ac eisteddodd i lawr. Yna mi drois at Jones:

"Rho'wch dipyn o ole' ar y mater," meddwn, gan geisio bod yn bigog.

"Mae o'n deud 'i fod o'n Gristion," ebe fe, "yn Goptiad, wyddoch, a mae o'n meddwl wrth shâp y'ch colar y'ch bod chithe'n Gristion. Mae o wedi bod yn deud wmbredd o bethe wrtho i am danochi, yn ol dull y Dwyreinwyr yma—megis y'ch bod chi'n ddyn glân,