Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn ddyn duwiol, a'i fod o'n y'ch caru ch'i, ac na fydde dim yn well geno fo na bod yn was i ch'i byth. Dyna oedd o'n dreio ddeud wrthochi pan ar 'i linie, ond fod 'i deimlade wedi myn'd yn drech nag e'."

Mae clywed dyn arall yn eich galw'n ddyn glân, a chwithe heb gael datguddiad cyffelyb er yn blentyn—ac yn ddyn duwiol, a chwithe'n gwybod y bydde'n chwith gan neb sy'n eich 'nabod i gyfadde hyny, yn eich toddi'n union; a mi edryches ar y crëadur craff dipyn yn fwy serchus. Darllenodd fy llygad ar unweth, a gwnaeth osgo i fwrw ei hun i lawr wed'yn. Ond mi weles ei bod yn bryd i ddwyn y benod i derfyniad.

"Os taw Coptiad yw," meddwn wrth Jones, "ceisiwch ganddo ddangos llun y groes ar ei arddwrn."

"Wel, ïe'n tê," ebe fy nghydymeth, gan daro'i goes â'i law; "sut na b'aswn i wedi cofio hyny?"

Trodd ato; ond mor fuan ag y gofynodd y cwestiwn iddo, gwelwn wyneb y dyn y'newid, ei lygad yn tanio, a'r olwg fwya' cythreulig y'myn'd arno. Hisianodd ychydig eirie rhwng ei ddanedd, a symudodd i gongl bella'r cerbyd, fel dyn wedi cael ei dd'rysu'n ei amcanion.

"Hwyrach y bydde'n well ini newid ein cerbyd yn yr orsaf nesa," ebe Jones.

"Pa'm? Be' sy'n bod?" gofynwn.

"Mae ei gariad wedi troi'n gâs," ebe ynte. "Hen gna' twyllodrus ydyw, ac nid yw'n fwy