Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o Goptiad na fine. Mae wedi deall rywsut mai ch'i dd'wedodd am ei arddwrn; a phan geisies i ganddo ei ddangos, d'wedodd y b'ase'n eich lladd yn y fan pe b'ase'i gyllell ganddo. Wedi cyfri' ar ein cydymdeimlad yr oedd, yn ddiame, ac ar ein harian wed'yn."

Pan ddaeth y trên i'r orsaf nesa', ni fu raid i ni symud. Aeth y twyllwr allan ei hun, ac ni welsom ef mwyach. Ac wedi i'r trên gychwyn drachefn, chwarddasom mor iach a chalonog nes fod pob twrban yn y lle yn hongian allan o'r ffenestri.

Mae'n ddrwg gen i dd'we'yd na fum mewn gwasaneth crefyddol yn Cairo o gwbl, os na chyfrifir imi'n gyfiawnder y bore y bum yn yr Eglwys Fahometanedd gyda Jones ac Ali. Mae llawer o bethe y'nglŷn â'r gwasaneth hwnw yn fy ffafr. Ond mi gefes beder odfa yn Alecsandria. D'wedaf air am danynt cyn dirwyn y benod i fyny.

Mae dwy o eglwysi Protestanedd gan y Saeson yn Alecsandria—yr Eglwys Sefydledig, a'r Eglwys Albanedd. Ni weles y flaena', ond bum yn yr ola' ddwyweth. Saif ychydig o'r tu allan i'r 'sgwâr y sonies am dano, ac o fewn haner ergyd careg i'r môr. Gwelir ei binacl o bellder, a gelwir yr eglwys ar enw Andreas. Mae'n gapel cysurus wedi myn'd iddo. Llofft heb lawr ydyw. Ceir llawer capel y'Nghymru yn llawr heb lofft; ond mae hwn yn wahanol. Nis gwn be' sy' odditano, ond gwn fod yn rhaid