Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dringo dros wmbredd o risie ar ffurf corcscriw cyn y deuir o hyd i'r fan lle mae Andreas yn byw; a phe digwyddech sibrwd yn Gymraeg ar ganol dringo—"andras o le ydi hwn!"—ni bydde'n ymddangos gyment allan o le a llawer man allasech enwi. Eistedda dros bum' cant, mi allwn dybied, yn y capel; ac yr oedd cynulleidfa barchus o dros ddeucant ynddo ar fore' Sul. Yr oedd y canu'n galonog, a'r defosiwn y'naturiol. Tynwyd fy sylw at ddarn o frethyn du oedd yn hongian ar draws yr adeilad, ychydig uwchben y bobl, a dyfalwn beth alle fod. Mi ddealles wed'yn taw ei bwrpas oedd i greu awel pan fydde'r gwres yn fawr yn yr ha'. Yr oedd ei ysgwyd yn ol a blaen yn lliniaru rywfaint ar y poethder. Nid wyf yn cofio beth yw enw'r pregethwr a glywes y bore' cynta' bum yno, ond pregethodd yn rhagorol oddiar Ioan xx. 15. Mwynhês y gwasaneth yn fawr drwyddo. Un odfa'n unig a gynelir yma ar y Sabbath, ond ceir odfa arall yn yr hwyr yn y Sefydliad sy'n perthyn i'r morwyr yn ymyl y porthladd. I derfynu'r dydd yn uniongred, es yno, a daeth y cadben hefo mi. Yr oedd yma gynulleidfa o haner cant, oll yn forwyr ond nifer o gynorthwywyr o'r ddinas. Dyn gweddol fyr, tywyll, tene, a bregethe, a'i dafodieth mor ddwfn a dim a gynrychiolid ar ddydd y Pentecost. Yr oedd pump o bob chwech o'i eirie'n myn'd i golli oddiarnaf, ac yr oedd ei fater a'i ymdriniad mor bell oddiwrth ddeall a chydwybod