ei wrandawyr ag yw'r dwyren oddiwrth y gorllewin. Gofynodd y cadben i mi wrth ddychwelyd i'r llong y noson hono be' feddyliwn o'r bregeth.
"Cyfleusdra ardderchog wedi ei ollwng i golli," meddwn; ac â hyn y cytune ynte. Bum dan weinidogeth y brawd tafodrwm y bore' Sul dilynol yn eglwys St. Andreas, a thybiwn ei fod yn ffitio'n well yno nag y'mysg y morwyr. Yr ail nos Sul cawd pregethwr cwbl wahanol yn y Sefydliad. Math o ddiwygiwr tanllyd oedd hwn, a siarade wrth ei gynulleidfa fel pe baem oll yn droseddwyr mewn carchar, ac yn euog o dori'r gorch'mynion bob un. Yr oedd un pregethwr yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn ddysgawdwyr; yr oedd y llall yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn lladron a llofruddion. Y canlyniad oedd, fod y ddwy weinidogeth yn aneffeithiol. Mi fydde 'beitu dwsin o honom yn aros ar ol i ganu tonau Sanci—dyn o'r enw Gammidge, goruchwyliwr y Sefydliad, yn arwen, a dyn o'r enw Owen, o Morpeth, yn chware'r offeryn. Ac yr wyf y'meddwl imi dd'we'yd o'r blaen nad oedd neb yn canu'n fwy "harti" yn y cyrdde hyn na chadben y llong y des drosodd ynddi.
Tradwy ar ol y Sabbath ola' hwn, pan oedd y dyn yn pregethu oddiar fynydd Ebal, y cododd y llong ei hangor, ac y trodd ei thrwyn i gyfeiriad y gorllewin.