Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XXIV.

YN OL.

 BELLACH, "teg edrych tuag adre'." Wedi gwel'd llawer o bethe heblaw a ddesgrifir yn y llyfr hwn, a chlywed rhagor nag a ddesgrifir yma, a theimlo mwy nag a ellir ei ddesgrifio ar ddu a gwyn, "daeth yr awr i'm ddïanc adre':" a rhyngoch chwi a mine, ni ddaeth fymryn yn rhy gynar. Yr oedd yn perthyn i'r fordeth yn ol rai helyntion oedd yn absenol o'r fordeth allan. Llonydd ac unffurf oedd hono o'i chymharu â hon. Mi dreiaf sôn am danynt cyn tewi.

Cychwyn i'r nos a wnaethom wrth fyn'd, a chychwyn i'r nos a wnaethom wrth ddychwelyd. Yr oedd un o'r hen griw wedi cael ei adel ar ol yn Alecsandria, i fyw neu farw mewn 'sbyty. Efe oedd yr hwn y tosturiwn wrtho gynt, pan yn troi'r olwyn. Ond caed un arall yn ei le, fel na fu hyny'n golled i'r llong. Fe ddowd hefyd o hyd i hogyn un-ar-bymtheg oed ar ol cychwyn, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw gilfach o'r llestr heb i neb ei wel'd. Stowaways y gelwir y math yma o deithwyr. Nid ydynt oll o'r un cymeriad; ond hwyrach fod y nifer luosoca' o honynt yn cymeryd at y dull yma o adel eu gwlad oherwydd eu bod wedi gosod eu hunen yn llaw'r gyfreth drwy ryw amryfusedd neu gilydd. Nid ydynt yn meddwl am y posiblrwydd iddynt osod eu hunen yn llaw'r gyfreth wrth aros mewn llong heb ganiatad