Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi iddi gychwyn i'w mordeth. Ond dyna fel y mae. Ceir erill yn anturio hyn oherwyth ffit o anesmwythder, neu ddïogi, neu awydd i wel'd y byd. A cheir ambell i grwt amddifad yn eu plith, yn defnyddio'r cyfle hwn i ddianc rhag gormes a chreulondeb meistr neu berthynas. Ac un felly oedd hwn, os oedd coel ar ei 'stori. Y maent oll yn cyfri' ar gael eu darganfod yn fuan, ac ar natur dda'r cadben. Fe allse hwn ddisgyn i ddwylo gwaeth, a chymerodd y bos'n ofal o hono.

Yr oedd y'noson dawel, gynes, a'r gwynt o'r de. Daliodd goleudy Pharos i d'w'nu arnom wedi ini fyn'd y'mhell i'r môr; ac wedi colli hwnw, es i fy ngwely. Dranoeth, yr oedd y gwres yn llethol, ac yn sibrwd 'storm y'nghlustie'r morwyr. Deue'r gwynt poeth dros yr anialwch; ac er fod mynyddoedd uchel rhwng yr anialwch a'r môr, carie'r gwynt y tywod yn ei gôl nes fod pob modfedd o'r llong yn orchuddiedig ganddo. Yr oedd y gronyne mor fân a melfededd nes galw am y chwyddwydr i'w dadgysylltu. Brodorion o'r Sahara o'ent bob un, ac yr o'ent wedi teithio dros gan' milldir dros dir a dw'r cyn cyredd y llong. Bu adar bach yn ein dilyn y diwrnod cynta' drwy'r dydd; nis gwn pa adar y gelwid hwy, ond yr o'ent yn dlysion a dôf iawn. Aethant i golli'r ail ddiwrnod. Mae'r morwyr yn hoff o grëduried, gwar a gwyllt, ar y llong; ac os lleddir un o honynt drwy ddamwen neu fwriad, ceir hwy i ddarogan pob math o flinfyd i'r llestr. Disgynodd crëadur tebyg i'r locust hefyd o gerbyd y gwynt; daliwyd ef, a buwyd yn dyfalu tipyn am dano. Mi geisies ei gadw'n fyw dros y fordeth, ond bu farw'r trydydd dydd. Erbyn hyn, yr o'em yn rhy bell oddiwrth dir i dderbyn rhagor o hono.