Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ce's brofiad o 'storm ar y môr wrth ddychwelyd,—yn wir, mi ge's hyny deirgweth. Daeth y gynta' arnom pan o'em yn tynu at Malta, yn ymyl y fan lle'r aeth yn llongddrylliad ar Paul; a bum yn ofni siwrne y b'ase'n myn'd yn llongddrylliad arnom nine hefyd. Yr oedd rhai pethe'n debyg rhwng ei daith ef a'n taith nine. O Alecsandria y cychwynodd ef—felly nine. Am y ddau ddiwrnod cynta', cawsant hwy'r gwynt o'r de—felly nine. Yna daeth "gwynt gwrthwynebus" a môr cythryblus i'w llesteirio—felly nine. Ond yn y fan yna, derfydd y tebygolieth, a dïolch am hyny. Ni chawsom ni'r "Euroclydon" fel hwy; enw presenol hwnw yw Simoon. Ni chawsom ni ein bwrw ar ynys; aethom heibio i Melita dranoeth yn ddïogel. Ond fe fu'n gryn helynt arnom nine.

Golygfa gyffrous yw 'storm ar y môr, i'w gwel'd o'r tir—ond mwy cyffrous yw bod ynddi. Cynyddodd y "gwynt gwrthwynebus" ar hyd y dydd, a chwyddodd y môr o dan ei guriade. Penod hir o dreigliade a thafliade a fu hon. Golche tunelli o ddyfroedd yn ddibaid dros ben blaen ac ochre'r llong, nes ein gorfodi i gau pob drws a ffenest' o'r fath sicra'. Gwelid llestri'r 'stiward yn ymryddhau oddiar eu bache, ac yn dawnsio'n wyllt o gwmpas y lle, nes creu'r twrw creulona'. Dilyne gwrthddryche erill eu hesiampl, gan ollwng eu gafel ar y dec. Erlidient eu gilydd, tarawent yn erbyn eu gilydd, a neidient dros eu gilydd fel pe baent wedi eu cynysgaeddu'n sydyn â rhyw fath o ddealltwrieth, ac y'methu dygymod â'u sefyllfa newydd. Wrth sefyll yn ymyl drws y caban, cyn iddi fyn'd cynddrwg, gwelwn y môr yn d'od ataf fel mynydd byw—y llong yn plymio i lawr ar ei phen i ganol y dyfnder, a'r mynydd yn hollti'n