Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

filoedd o frynie drosti; darne erill, fel eirth gwynion, yn dringo dros ei hochre, tra cwyd y llestr ei phen o'r dyfnder drachefn, gan ysgwyd ei hun yn rhydd o'r trochion, fel yr ysgwyd llew ei fwng yn rhydd o wlith y bore'. Ac yn y blaen eilweth a tbrosodd. Neu, hwyrach y newidia ei symudiade, ac, mewn ufudd-dod i'r llywydd, yr ysgoga bwynt neu ddau ar ei chwrs, fel ag i beri iddi ogwyddo ychydig i un ochr, ac wrth hyny ddwyn ei rhagfurie i ymyl y dw'r, a chodi tòn fydde'n pasio i fyny'n gorfforol i'r dec—gan fyn'd dros yr un gwaith yr ochr arall. Neu, hwyrach y tarewid hi ar ei hysgwydd gan foryn bradwrus, nes peri iddi golli ei chydbwysedd am ychydig, heb wybod yn iawn beth i wneud, ai ymsuddo ai ymrolio—ac yn gwneud pob un o'r ddau. Canlyniad hyny fydde dwyn eich traed odditanoch; a mi ge's brofiad anymunol o beth fel hyn yn y caban, pan oedd y dymestl wedi cyredd ei gwylltineb eitha'. Eisteddwn ar fainc yn un pen i'r ystafell, a dyma haner-ymroliad dirybudd yn fy nhaflu'n ddiseremoni i'r pen arall; a phan o'wn ar fy ffordd i dd'od 'nol, dyma haner-ymsuddiad yn cymeryd lle nes cael o honof fy hun yn cofleidio'r 'stôf oedd ar ganol yr ystafell, a'r fainc yr eisteddaswn arni wedi newid y drefn, ac yn eistedd arnaf fi yn gysurus. Mi f'asa'r cofleidio hwnw'n siwr o fod yn gynesach pe b'ase tân yn y 'stôf; ond 'roedd o'n ddigon sylweddol fel yr oedd—braidd ormod felly, yn ol fy marn ar y pryd. Ofn? Oedd; pa'm y celaf ef? Pe d'wedwn nad oedd, pwy'm crede? Eto, prin y gwydde neb arall hyny; ac yr oedd ambell i anffod ddigri fel hon y'nghanol yr helyntion i gyd yn help imi gadw fy hun rhag cael fy llwyr-berch'nogi ganddo. Wedi ara' dynu at Malta,