Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwlaw creulona' drwy'r nos, gan waethygu at yr ail wyliadwrieth. Ysgreche'r gwynt mewn natur ddrwg, ac ysgytie'r llong megis yr ysgytia ci neu gath lygoden. Ymgynddeirioge'r môr o dan ffrewylle ysgorpionedd y gwynt, a neidie dros y decie ucha' wrth geisio dïanc, dan falu ewyn fel y lloerig gynt. Ac i wneud pethe'n waeth, tewychu wnai'r niwl. Daeth niwl a gwlaw yn lle gwlaw a niwl. Bu agos ini gam-gymeryd Beachy Head am Dungeness, ac ni fu ond trwch blewyn rhyngom a tharo ar draethelle Goodwin. Mae f'asgwrn cefn y'myn'd fel colofn o rew'r funud yma-pan gofiaf hyny. Ond dïolch i Dduw, cyraeddasom Fôr y Gogledd yn ddïangol: a phan ofynes i'r cadben dranoeth y ddrycin, beth oedd ei farn am y noson:

"A very dirty night," ebe fe; a dyna'i gyd. Ond pan dd'wedaf wrthych iddo ef fod ddeuddeg awr ar y bont heb newid ei ddillad na symud o'r fan, cewch syniad gwell am y noson hono nag a gewch oddiwrth ei eirie ef ei hun.

Mi ge's rywfent o wybodaeth hefyd o'r peryglon a'r ofnadwyeth sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y môr. Tua deg o'r gloch y nos ydoedd, ac yr o'em yn tynu at Algiers. Yr oedd y'noson dawel, braf, heb gwmwl uwchben, heb dòneg odditanodd, na digon o chwa'n pasio heibio i symud blewyn o'ch gwallt. 'Ro'wn i yn ystafell y siart hefo'r cadben, a'r prif swyddog ar ei wyliadwrieth ar y bont. Mi ddigwyddes droi fy mhen ar ganol siarad, a gwelwn y drws yn cael ei gil-agor yn araf, a bys yn amneidio ar y cadben. Gwelodd y cadben ef hefyd, ac allan ag e'n union. Wrth iddo agor y drws yn lletach, dyna lle'r oedd gwyneb y prif swyddog fel gwaith sialc ar bared ddu. Ffroenes beryg' yn union. Es ine allan, a beth a weles ond llong