Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anferth yn d'od tuag atom ar ein llwybr, heb ond ryw haner chwarter milldir rhyngom â hi. Hi ddeue i lawr arnom heb newid dim ar ei chwrs, fel pe na bai neb wrth y llyw, nac ar y wyliadwrieth. Arosasom, a swniwyd yr arwydd o beryg'. Wedi i'n peiriane ni sefyll, clywn beiriane'r llong arall yn curo'n uchel, ac yn uwch, a'r sŵn yn disgyn ar fy nghlustie fel sŵn ffust y 'sgubor gynt, wrth ddisgyn ar y llawr-dyrnu. Nid o'wn wedi clywed rheiny er pan o'wn yn grwt gartre'; ond daethant i'm cof ar ganol Môr y Canoldir, dros gyfandir o bymtheg mlynedd ar hugen. Wrth glywed y corn yn crïo allan, daeth y dynion i'r dec yn dyrfa—y rhai oedd wedi myn'd i'w gw'lâu'n d'od yn eu cryse, a'u gwynebe'n wynach na'r pilin oedd am danynt: oblegid dychryn mawr y morwr, pan ar y môr, yw gwrthd'rawiad. Ar ol iddi dd'od mor agos atom ag y medre 'mron, heb daro'n ein herbyn, mae'r fileines, yn lle cymeryd ei llwybr prïodol, yn croesi pen blaen ein llong ni, yn cymeryd yr ochr chwith yn lle'r ochr dde, ac yn diflanu i'r nos. Pe baem ni wedi cyd-symud, a chadw ein hochr ein hun, i'r gwaelod yr aem yn anocheladwy. Wrth basio, taflodd rhywun lenllïan mawr dros ei hymyl i guddio'i henw. Gwaeddodd y cadben allan yn ddigon uchel iddynt glywed:

"You deserve to be shot!" Nid oedd y'mhell o'i le. Y tebygrwydd yw fod yno ddawnsfa'n cymeryd lle, ac iddi brofi'n ormod o demtasiwn i'r swyddog oedd ar y wyliadwrieth. Dyna fel y mae llawer llong y'myn'd i'r gwaelod, heb neb ar ol i fynegi'r hanes. Es i'r gwely'n fuan wed'yn dan ddiolch am y waredigeth; ond am y peryg' y breuddwydiwn.