Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwi gofiwch imi fyn'd heibio Craig Gibraltar yn y nos pan es allan, ac mai'r help a gefes i ymgynal dan y siomedigeth oedd cofio y b'aswn, os arbedid fi, yn d'od y ffordd hono eilweth wrth ddychwelyd. Yr oedd pellder o ddeugen milldir rhyngom â hi pan welsom hi gynta'. Fel y deuem y'nes ati, enille arnom fel y Pyramidie. Pyramid y môr oedd hon, ac o waith natur. O'r diwedd, yr ydym yn ei gwynebu, ac y'morio o fewn haner milldir iddi. Craig anferth ydyw, yn codi'n syth o'r mor i ganoedd o droedfeddi o uchder, ac yn dinystrio pob gobeth i neb fedru ei dringo byth o'r gogledd nac o'r dwyren. Ar yr ochr orllewinol, llithra i lawr yn raddol i'r bau, lle mae tre' Gibraltar yn gwynebu tref Algeciras yr oehr arall. Gysylltir y graig â thir Sbaen gan lain main ac isel o dir a elwir "Gwlad Neb"—tir canolog, yn wleidyddol a daearyddol. Ni pherthyn i Sbaen na Pryden; a d'wedir nad yw'r bobl sy'n byw yma'n talu rhent na threth. Hapus dyrfa! Dan y graig angore llong ryfel, ac yn y bau rhifes ddeuno. Gweles fâd torpedo yn hwylio tuag at y gynta'. Darn hir, cul, bâs, main, a thywyll oedd, yn symud yn ddistaw a chyflym, a'i osgo'n d'we'yd taw crëadur peryg' i ymhel âg ef ydoedd. Gwelir cyflegre 'mhob man ar goryn a gwyneb y graig, ac y mae'r nifer luosoca' o'r golwg. Mae Ceuta'r ochr arall i'r Culfor. Perthyna hono i Sbaen, fel ad-daliad am golli Gibraltar, ac y mae'n dre' dlos dros ben. Nid oes ond tua saith milldir rhyngddynt. Tery'r Graig y meddwl dynol â syniad diapêl am allu Pryden Fawr. Teimlwn yn falch wrth basio fy mod yn Brydeiniwr, yn enwedig pan gofiwn fod holl alluoedd y lle at fy ngwasaneth i i'm hamddiffyn, pe bydde taro. Bu adeg pan oedd Sbaen yn brif