Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allu'r Cyfandir, os nad y byd; ond heddyw, delir ei thrwyn ar y maen llifo gan y Sais. Oni bai hyny, gwae fydde i Ewrop. "England, with all thy faults, I love thee still." Yr wyf yn ddigon o Gymro i gydnabod rhagoriaethe fy nghymydog heb genfigenu wrthynt. Nid oes gyffelyb iddi y'mysg holl wledydd y byd. Y feddyginieth ore' i wrthweithio rhagfarn gwrth-Brydeinig yw myn'd allan i wel'd ei gallu yn y Trefedigaethe. Fynycha', y bobl sy'n rhegi eu gwlad yw'r bobl sy'n byw ar hyd eu hoes o fewn golwg i ffumer y tŷ lle ganed hwy. "Duw Gadwo'r Brenin."

Mi gefnes ar yr Aifft gan deimlo 'mod i'n cefnu ar olion gwareiddiad a ragore mewn rhyw bethe ar wareiddiad yr ugeinfed ganrif. Ond beth yw gwareiddiad heb Gristionogeth? Bedd wedi ei wyngalchu, a'i du fewn yn llawn malldod a melldith—addurniade gwychion ar gorff marw—crochan wedi ei baentio, ac angeu'n byw ynddo. Ni fedr gwareiddiad heb Grist'nogeth waredu na phobl, na chenedl, na gwlad. B'le mae Rhufen a'i gallu heddyw? B'le mae Carthage, ei gwrthymgeisydd mewn awdurdod? B'le mae Assyria a Babilon? B'le mae Groeg a'i cherflunieth, ei hyodledd, a'i philosophi? Y gwledydd mwya' gwâr y t'w'nodd haul Duw arnynt erioed—pa le y maent? Eu gwareiddiad nis achubodd hwynt, a'u hathrylith nis cadwodd hwynt yn fyw. Dïolch i Dduw am wareiddiad, ond dïolch yn fwy am Gristionogeth.

Am y gweddill o f'anturiaethe y'nhir Ham, onid ydynt i'w cael ar gof a chadw erbyn dydd datguddio?




GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.