Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flêr, a'i lais yn debyg i ffliwt wedi cael anwyd, yr oedd ganddo dric annymunol o siarad yn ei wddf, yr hyn a'i gwnai'n boenus i wrando arno. D'wedais “Ië” wrtho ganweth pan ddylaswn dd'we'yd “Nage,” a “Do” pan ddylaswn dd'we'yd “Naddo;” eto mi gredaf fy mod yn llai cyfrifol am hyny nag am lawer o bethe.

Bachgen o'r un gym'dogeth oedd yr ail beirianwr, a chân ar ei wefus drwy'r dydd. Gwydde am holl ganeuon y dawnsdai, am holl ffraethebion y chwareudai, ac am holl 'streuon y clybie. Clywes ef yn canu mewn cyngherdde droion yn Alecsandria, ac yr oedd yn debycach o gael encôr na neb. Yr oedd ei lais yn uwch na llais pawb, a'i chwerthiniad i'w glywed mewn cystadleueth a'r elfene. Bu'n help i godi f'ysbryd i sgoroedd o weithie, pan y bygythie fyn'd yn is na f'esgidie.

O dan y rhai hyn ceid y tanwyr,—y dosbarth isa'u moese ar y llestr. Cy'd ag y bu'r llong yn Alecsandria, ni wnaeth y llabystied hyn ond meddwi, ymladd â'r heddgeidwed, a threulio nosweithie dan glo. Mi weles un o honynt yn taro'r prif swyddog yn ei fedd'dod, ac yn cael ei osod mewn gefyne am hynny. Bu'n gorwedd ar y dec am orie'n rhwym wrth un o'r ategbyst, yn engraff truenus o “dwyll pechod.” Codasant eu harian i gyd cyn cychwyn ar y fordaith adre', a gwariasant bob dime goch ar wirod, a myglys, a dirwyon; ac erbyn i'r llong gyredd Lloegr, nid oedd ganddynt ffyrling ar eu helw, na hatling i ymgroesi.