Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Adwaenid y saer y'naturiol iawn wrth yr enw Chips. Brodor o Norwe oedd efe, ac yn ddyn trigen oed. Un o garitors y llong oedd y saer. Yr wyf yn cofio ei fod yn gwneud rhywbeth i'w hystlys ar ddiwrnod pur frochus, pan y llithrodd tòu o gryn faintioli drosodd, gan ei daro yn ei wyneb nes syrthio o hono'n fflechtan ar y dec. Tybiwyd am foment ei fod wedi ei ladd neu ei foddi; a phan ddaeth ato'i hun, y peth cynta' dd'wedodd oedd ei fod wedi llyncu llon'd ei safn o hoelion!

"Gwell iti lyncu'r mwrthwl eto, Chips," ebe'r ail beirianwr.

Mae'n debyg fod yr hoelion ganddo yn ei safn, yn ol arfer seiri, pan ddaeth y dòn, a chan na welwyd yr un o honynt wed'yn, nid gwaith anodd oedd credu iddynt oll fyn'd i lawr ei gorn gwddf. Byth ar ol hynny, 'doedd dim a yrai Chips allan o'i bwyll yn waeth na gofyn iddo wrth basio am fenthyg yehydig hoelion. Tebycach fyddech o gael y morthwyl at eich pen, oni phrysurech eich camre.

D'wedais fod gofal yr olwyn ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i'w throi. Llanc o Gernyw oedd un, ac ymddangose mor anystwyth ei symudiade a phe buase wedi bod yn labro hyd y funud hono. Cydwladwr i Chips oedd y llall, yr hwn oedd y'ngafel y declein. Am y ddau arall, mae genyf chwedl i'w hadrodd, os deil eich amynedd heb fethu.