Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.

RHAGOR AM Y CRIW A'R SWYDDOGION.

 GWYDDEL oedd un, a llanc o'r Eidal oedd y llall. Hen grëadur difyr a dyddan oedd y blaena', a'i brofiad o'r môr yn haner cant oed. Ryan oedd ei enw. Yr oedd yr ola' drachefn mor ffyddlon a pharod a neb ar y llong, a'i enw'n Angelo. Ffrindie calon oedd y ddau, fel y profa'r 'stori wyf y'myn'd i'w hadrodd.

Pan oedd y llong yn ymyl y cei yn Alecsandria, yr oedd Ryan yn paentio'r ochr tu fa's iddi. Safe ar rafft oedd a'i dadgysylltiad lawer y'nes na dadgysylltiad yr Eglwys Wladol; ac yr oedd wedi d'od ar ei hynt i ymyl gwàl y cei, pan y tarodd yn ei ben i ddringo'r wàl gyda help ochr y llestr, yn hytrach na throi'n ol i'r fan lle'r oedd yr ysgol. Ond buan y cafodd Ryan wybod taw'r ffordd bellaf yw'r ffordd agosaf, ac felly, trwy gwrs o ymresymiad greddfol, taw'r ffordd feraf yw'r ffordd hiraf yn aml. Pan dybiodd ei fod wedi cael un droed i wagle dïogel yn y wàl, gan ddefnyddio'r ddwyfraich i wasgu'n erbyn y wàl ar y naill du, ac yn erbyn ochr y llong ar y tu arall—