Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddodd wth i'r rafft oedd dano â'r droed oedd yn segur, nes ymsaethu o honi i bellder boddhaol. Pan ddes i droi'r peth yn fy meddwl wedy'n, bu raid i mi adde' i mi fy hun fod y Gwyddel yn siwr o fod wedi cael ffit o'r bendro. A mi dd'wedaf y rheswm pa'm.

'Doedd dim yn galw arno i yru y rafft i ffwrdd mor ddiseremoni. Ni fuase ar ei ffordd o gwbl, oblegid i fyny'r amcane'r dyn fyn'd, ac nid i lawr; ond bu ei waith yn gwneud i ffwrdd â hi y'mron a sicrhau ei fynediad i lawr yn lle i fyny. A dyna lle'r oedd yn hongian gerfydd ei freichie, neu wrth ei benelinoedd yn hytrach—un droed yn y wàl, a'r droed arall yn siglo fel pendil cloc uwchlaw'r dw'r. Yr oedd fel pe b'ai mewn feis; ni fedrai newid ei safle pe gwelai sharc yn ffroeni ei sawdl. Aeth i ddechre gwanhau. Bygythie ei ddwyfraich ei ollwng i'r dyfnder odditanodd; ac yn y sefyllfa beryg' hono, dyma rês o'r oernade mwya' torcalonus yn dod oddiwrtho:

"Angelo! Angelo!"

Digwyddwn fod yn eistedd ar y pŵp uwch ei ben, mewn anwybodaeth cysurus o'r helynt ddifrifol odditanaf; a phan ddaeth y floedd, bu agos imi neidio dros y bwrdd gan ei sydynrwydd a'i gwawch. Edryches i lawr, a dyna lle'r oedd Ryan, druan, yn edrych fel 'sgadenyn wedi ei 'sgiwrio, ac yn gwaeddi "Angelo!" nes rhwygo'r awyr. Yr oedd gwàl y cei bellach yn frith o frodorion; ac yn lle estyn llaw o