Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymorth i'r creadur, chwarddent am ei ben, a dynwaredent ef yn galw ar Angelo. Mae hwnw'n d'od yn union, a'i wynt yn ei ddwrn; ac ar ol eryn ffwdan, codwyd y Gwyddel i'r làn yn fwy marw na byw. Os oedd lle, yr oedd y ddau yn hoffach o'u gilydd nag y buont erioed.

Dyn tàl, tene', oedd y cogydd, mewn tipyn o oed, tebyg i grydd, brasderog ei olwg, a bysedd un o'i ddwylo heb fod ganddo. Nid oedd cofio am y cogydd yn un help i mi i fwyta pryd o fwyd, a gwnawn fy ngore' i wadu ei fodolaeth cy'd ag y byddwn wrthi.

Personolieth tra gwahanol oedd i'r stiward. Dyn byr, tew, oedd efe, o'r un hyd a'r un lêd, glân ei groen a syber ei wisg—a'r gore' o neb oedd ar y llong i gerdded y dec pan fydde'r llestr yn chware' Euclid ac yn delio mewn ongle. Yr oedd ei ystafell o dan yr un tô a'r prif gaban, a da oedd genyf gael ei gwmni pan fydde'r elfene'n gwneud pêl droed o'r hen long. Mi weles y 'storm yn gwneud galanas enbyd ar ei lestri un tro—ymdroellent o gwmpas ein pene fel cerig, a tharawent yn erbyn eu gilydd yn y modd mwya' nwydwyllt a dïalgar. Mi glywes y weilgi wyllt oddiallan yn taro'n erbyn y pared ddwseni o weithie tra'r eisteddwn gyda'r 'stiward, a hyny gyda'r fath swn a nerth, nes credu o honof fod y cwbl yn d'od i fewn, a rhagor. Prin y rhodde neb bisin grôt am fy hoedl y prydie hyny; ac oni buase fod y stiward genyf yn