Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwmni, mi fuase'n ddrud am bisin tair. Mae genyf gof pleserus am ei garedigrwydd didrwst sgoroedd o weithie; ac yr oedd gwel'd ei wyneb crwn, heulog, wrth fy ngwely bob bore', ar wahan i'r coffi sawrus a gariai yn ei law, i mi fel gwel'd gwyneb angel.

Deuaf yn awr at y swyddogion a'r cadben.

Cydwladwr i Ryan oedd yr ail swyddog, 'beitu dwy ar hugen oed, heb flewyn ar ei wyneb na deilen ar ei dafod, yn forwr bob modfedd o hono, a'i symudiade'n d'we'yd yn uwch am y llong hwylie nag am y llong ager. Yr oedd cystal chwibanwr a'r ail beirianydd am ei ddanedd, ond ni chlywes i rêg erioed yn d'od allan o'i ene', er ei fod yn d'od i gyffyrddiad agosach â'r criw na'r prif swyddog. Bu hefo mi mewn gwasanaeth crefyddol ragor na siwrne. Presbyteriad oedd o ran y ffydd. Nid oedd ganddo y cydymdeimlad gwanaf â Home Rule, am y crede fod hyny'n gyfystyr â Rome Rule yn syniad y cynhyrfwyr Gwyddelig.

Brodor o Denmarc oedd y prif swyddog, prin ddeugen oed, a golwg tywydd garw ar ei wyneb-pryd. Mae'n debyg fod ei gyfran o hwnw'n fwy na'r cyffredin. Yr oedd croen ei wyneb wedi myn'd fel memrwn, a difyr oedd ei glywed y'myn'd dros ei helyntion. Mi dreulies lawer awr yn ei gwmni ar y bont ac yn ei gaban; ac ni rodde dim fwy o foddhad iddo na sôn am ei wraig a'i blant, at y rhai y medde gariad y tu hwnt i bobpeth. Croge darlun mawr o honynt