Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uwchben ei wely, ar yr hwn y sylle nes cwympo i gysgu; ac yr oedd darlunie llai yn britho'r ystafell drwyddi. Ysgrifenu gartre' oedd ei bleser mwya', ac ni weles ddyn erioed yn gallu taflu ei gydwybod yn llwyrach i'w waith. Ni wnele eithriad o bryd bwyd, ond clirie beth bynag a osodid ger ei fron gyda'r cydwybodolrwydd mwya' cysurus.

Un o Canada oedd y cadben. Hon oedd ei long gyntaf a'i ail fordeth yn y cymeriad hwnw. Dyn byr, tywyll, 'sgwarog, penderfynol ydoedd—ei drem yn waharddiad, a'i air yn ddeddf. Fel rheol, prin oedd ei eirie a phell ei osgo. Ond ryw noson, pan oedd gwynt cythryblus yn ymosod arnom o Gulfor Lyons, a'n dau yn eistedd yn ystafell y siart, adroddodd ei hanes i gyd wrthyf mewn llai na theirawr. O hyny allan, nid oedd gyment dirgelwch i mi a chynt. Yr oedd yn llwyrymwrthodwr cadarn, yn ysmygwr difefl, yn ddarllenwr mawr, yn fwytawr bychan, yn feistr cryf, ac yn foneddwr o'i goryn i'w sawdl. Bu gwylio'i hunanfeddiant a'i bwyll mewn adege o berygl yn help i mi droion i feddianu f'ened fy hun mewn amynedd. Efe oedd fy nghwmni yn Alecsandria b'le bynag yr awn, a gwydde am bob twll a chornel o'r ddinas. Yr oedd yn ddyn o arg'oeddiade crefyddol dyfnach na chyffredin, a chane done Sanci yn y gwasaneth nos Sul mor galonog nes tynu sylw erill ato. Balch wyf i restru'r cadben y'mysg fy ffrindie gore'.