Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd y coffi boethed, a'r fiscïen galeted. Prin o le oedd genyf i orwedd ynddo, heb sôn am gyflawni dyledswydde erill; ac erbyn y cyfrifwch symudiade sydyn y llestr ambell fore', mi wn eich bod yn ddigon rhesymol i gredu taw bwyta ac yfed dan anhawsdere 'ro'wn yr amsere hyny. Pan y ceisiwn yn gynil gusanu'r coffi dros ymyl y cwpan, fe rodde'r hen long dro yn ei gwely hithe: y canlyniad o hyny oedd, fod traflwnc o'r gwlybwr poeth yn llifo i lawr fy nghorn gwddf fel hylif tân, a rhoi i mi brofiad o burdan am eiliad. Rhwng caledwch y fiscïen a thanchwa'r coffi, 'ro'wn bron a myn'd i gredu na fydde genyf dafod na dant erbyn y cyrhaeddwn adre'.

Blinfyd arall oedd ymwisgo. Gelwid y lle y gorweddwn ynddo'r nos yn bunk, ac yr oedd un arall odditano. Dewisais yr ucha' am ei fod yn nes i'r ffenest'; ond y troion cynta' bum bron ei newid am y llall. Rhyw deimlad o urddas a leche rhwng f'asene barodd imi beidio. Cawn drafferth nid bychan i fyn'd iddo; ond 'doedd hyny'n ddim yn ymyl y drafferth a gawn i dd'od o hono. A phe gwelech fi'n ceisio myn'd i mewn i'm llodre', arswydaf wrth ddych'mygu'ch beirniadeth. Prin y mae angen imi dd'we'yd ei bod yn fater o reidrwydd imi gydio âg un o'm dwylo mewn rhywbeth sefydlocach na mi fy hun; ond y funud y gollyngwn fy ngafel, collwn fy nghydbwysedd, ac wrth geisio'i adfer, 'doedd dim dal nad ele'r llodre'n