Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fagl imi, ac nad ar fy hyd ar y llawr y cawn fy hun, a 'mhen wedi d'od i wrthdarawiad â'r bwnc isa'. Ar adege neillduol, yr oedd awr o amser lawer ry fach imi fyn'd drwy'r gwasaneth i gyd; a phan 'r eisteddwn i lawr am wyth o'r gloch i fwyta fy more'bryd, fe fydde peth o ôl y frwydr arna' i fynycha'.

Yr o'em yn bedwar wrth y bwrdd ar brydie bwyd, os bydde amgylchiade'n caniatau—y cadben, y ddau swyddog, a mine. Beth bynag arall ellid ei dd'we'yd am y prydie, byddid yn ddiogel ei wala pe d'wedid am danynt eu bod yn sylweddol. Triphryd y dydd oedd y mesur, gydag ambell i sgwlc 'nawr ac eilweth.

Y peth cynta' geid i frecwast oedd "uwd." Un o ffrindie bore' oes oedd efe; ond nid o'wn wedi ei wel'd yn edrych cystal er pan o'wn yn grwt gartre'. Bob tro y digwyddwn gwrdd âg e' wed'yn, ryw erthyl diymadferth ydoedd, a'i "anelwig ddefnydd" yn pregethu darfodedigeth. Ond yn y llong yr oedd fy hen ffrind dewed ag erioed. Gwedi cyfnewid syniade â'n gilydd, cymerwyd ei le gan ddysgled barchus o gorachod tordyn a brasderog y gelwid "sosinjers" arnynt yn y dyddie gynt. Yr o'ent bron a bod o'r un hyd a'r un led fel y 'stiward; ac yr oedd eu crwyn mor dỳn am danynt, fel nad oedd eisie ond gosod min y gyllell i gyffwrdd â hwy i beri iddynt ymffrwydro'n fygythiol. Nid oedd golwg ddymunoled arnynt wed'yn. Helpid y bechgyn hyn i lawr gan bytatws oedd wedi