Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

colli eu hunanieth cyn cyredd y bwrdd, a myn'd yn un i'w gilydd. Yn fy myw y gall'swn gofio imi erioed fwyta pytatws gynared ar y dydd, a deue rhyw hen dorïeth felly rhyngof a'u mwynhau fel y caraswn. Eto, gwnes fy ngore' dan yr amgylchiade; ac erbyn i rif y trydydd ganlyn ar ffurf "pwdin reis," nid oedd genyf ysbryd mwyach i bara 'mlaen. Neu hwyrach taw'r cylla oedd yn cellwair. Yr oedd y cyflenwad olaf hwn yn edrych mor sylweddol a dim oedd ar y bwrdd. Pe bai'r fath beth yn bosib' ag i'r trymaf o honom fedru dawnsio ar ei grystyn—neu pe'i teflid yn enw pêl droed ar hyd y dec nes blino o honom, nid wyf yn meddwl y dygai ddim o'r node, nac y cwynai oherwydd y gamdrinieth.

Dïau taw'r adeiladeth ore' i mi oedd gwylio'r ddau swyddog wrthi. Eisteddwn gyferbyn iddynt, a'r cadben wrth f'ochr. Mi dd'wedes eisoes taw bwytawr bychan oedd y cadben, ond gwnai'r lleill iawn digonol am ei ympryd ef a mine. Cenfigenwn wrth y modd blysig a deheuig yr aent ati; a phan ddeue'r prydie erill heibio'n eu tro, ceid ganddynt ail a thrydydd argraffiad, gydag ychwanegiade, o bryd cynta'r dydd.