Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V.

RHAGOR AM Y BYWYD BOD DYDD.

 AM un cenid y gloch ginio.

Cawl go dene' oedd y rhagarweiniad i'r eilbryd fynycha'. Nid yr un oedd ei ddeunydd bob dydd, ond yr un oedd ei drwch. Yna fe ddeue rhyw gymysgfa y gelwid curry arno. Pare hwn imi chw'thu, a chw'su, a chochi, a thynu f'anadl ataf, a cholli dagre, gan mor dwym' ydoedd; ond yr oedd y ddau frawd ar fy nghyfer yn peri iddo ddiflanu heb grychu talcen. Arferwn yfed swm difrifol o ddw'r wrth drafod y crëadur yma, nes y des i wel'd nad oedd dim yn tycio, yna ymatelies. Cig eidion, neu borc wedi ei biclo a ddilyne, mor flasus â dim oedd yn y fwydgell. Caled oedd y blaena', a meddal yr ola', ond canwn eu clodydd yn uwch na dim arall, a bendithiwn y diwrnod pan y gwnaent eu hymddangosiad ar y bwrdd. Dirwynid y ginio i fyny weithie gan ŵr bonheddig o'r enw Roland Poland—yr hwn, yn ein munude mwya' chwareus, a alwem yn "roly-poly;" a phrydie erill gan bwdin o'r un teulu a'r llall y sonies am dano. Bydde'r pryd