Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gydag ef. Ac i wneud 'stori fer o 'stori hir, dyma ydoedd:

Math o garchar i gadw'r dysgle a'r platie rhag dïanc dros yr ymylon pan fydde'r llong y'myn'd wŷsg ei hochr i radde mwy nag a fydde'n ddymunol. Amddiffyn y llestri lleia' rhag direidi'r llestr mwya' oedd ei genhadeth, ac yr oedd yn amlwg na ellid gwneud hebddo. Yr oedd defnyddio cyllill a ffyrc dan amode fel hyn yn orchwyl peryg'; ac yr oedd yn rhaid i ddyn gadw'i lyged yn agored os am gadw'i geg yn iach. Yr enw arno oedd crwth. Nid oedd ynddo ddim yn debyg i grwth cyffredin, ond yr oedd y llestri pridd a phiwtar yn tynu tipyn o fiwsig allan o hono. Bu raid ini wrth wasaneth y "crwth" cy'd ag y buom yn y bau, a throion wed'yn; a 'does dim dadl nad oedd yn un o'r cre'duried mwya' gwas'naethgar yn y llong.

Fy nghydymeth ffyddlona' wrth fyn'd a dychwelyd oedd cath fechan ar ei phrifiant o'r enw Bismarc. Nid oedd yr enw'n ffitio'i rhyw, oblegid yr oedd y'nes perthynas i wraig Bismarc nag i Bismarc ei hun yn yr ystyr hono. Tebyg taw cath ystrai ydoedd, a ddaethe i fewn yn y Bari Doc pan oedd y llong yn llwytho. Talai am ei lle y'null arferol y math yma o bedrod, sef trwy hela llygod a'u dal. Mae morwyr yn hoff o gre'duried ar y bwrdd, a bydde lladd un o honynt trwy fwriad neu amryfusedd yn creu hylabalŵ ofnadwy. Yr oedd byd braf