Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar Bismarc, ac yr oedd ei gôt yn profi hyny. Gofale'r cadben am ei frecwast, y prif swyddog am ei ginio, a'r ail am ei dê. Nid wyf yn gwybod pa'm y dodwyd yr enw Bismarc arno, os nad oblegid ei hirbeneiddiwch. Os methwn a bwyta'r cwbl osodid ger fy mron, deue Bismarc heibio, a dealle'r sefyllfa'n union. Nid oedd terfyn ar ei rwbio a'i ganu nes y cynygid y gweddillion iddo; ond os dealle fod pob un y'meddwl myn'd trwy ei waith heb adel dim ar ol, fe ymneilldue'r gwalch nes y bydde'r cwbl drosodd. Yna fe ddychwele at ei blât ei hun.

Treulies lawer o f'amser i chware' gyda'r gath, ac nid oes arnaf g'wilydd d'wedyd hyny. Mae'n amheus genyf a fu'r crëadur bach ar y môr o'r blaen, oblegid 'roedd symudiade dideddf y llestr yn peri dyryswch mawr iddo. Credwn weithie fod ganddo wybodeth reddfol fy mod i'n debyg iddo yn hyny o beth. Bid fyno, hefo mi y myne fod pan fydde'r gwynt yn uchel, a'r môr yn dringo wrth ei sodle. Yr oedd yn siwr o fod wedi cyfri' ar fwy o gydymdeimlad gen i na neb arall. Pan gode'r llestr ar ei hochr, nes gwneud i mi genfigenu wrth y clêr am fedru cerdded a'u peue' i lawr, safe Bismarc yn sydyn am eiliad, fel pe bai'n ceisio ymresymu'r pwnc—yna fe ruthre ar ei gyfer mor wyllt a diseremoni, nes yr ofnwn iddo daro'i fenydd yn erbyn y pared. Cyn ei fod wedi cael ei draed dano, mae'r llong yn rhoi tro i'r ochr arall, nes gyru Bismarc, druan, i'r cyfeiriad cyferbyniol, a'i