edrychiad fel edrychiad dyn meddw'n ceisio bod yn sobr. Nid oes amheueth genyf nad oedd y gath y'ngafel selni'r môr lwyred y bu cath erioed—na dyn chwaith, pytae fater am hyny. Ar ol i'w fewnolion gael eu troi a'u trosi, eu chwilio a'u chwalu, eu corddi a'u cordeddu tua dau ddwsin o weithie yn y modd yna, fe orwedde i lawr yn y man lle bydde fel un wedi rhoi' fyny'r ysbryd, a cholli pob gobeth am wel'd llygoden byth ond hyny.
Ni fydd y benod yn gyflawn heb i mi dd'we'yd gair am y dydd cynta' o'r wythnos. Yr o'wn wedi awgrymu i'r cadben mewn pryd y byddwn at ei wasaneth i bregethu ychydig i'r dwylo ar y dec, neu i fyn'd dros rai o done Sanci hefo'n gilydd. Ond ce's ar ddeall yn fuan fod yn well ganddo beidio; a'i reswm oedd—fod yna'r fath gasgliad o wahanol opiniyne ar faterion crefyddol a gwleidyddol, nes ei gwneud yn ddoethach i gadw'n glir oddiwrth bethe felly'n gyhoeddus, a gadel ei ryddid i bob un i feddwl fel y myne am y naill a'r llall, neu i beidio meddwl o gwbl. Er nad o'wn o'r un farn ag e' ar y pwnc, efe oedd y meistr, ac nid oedd apelio i fod oddiwrth ei ddyfarniad.
Y Sul cynta, es am dro cy'belled a phen blaen y llong, ac yno gwelwn gortyne o'r naill bôst i'r llall, ac arnynt bob math o bilin, gwlyb a sych, adnabyddus ac anadnabyddus, o bob lliw a llun, cyfen ac anghyfen, yn chwyfio'n yr awel ac yn clecian yn y gwynt, nes peri imi