Gwirwyd y dudalen hon
feddwl fod yno gynrychioleth o faneri holl genedloedd y byd. Wedi holi, ce's ar ddeall taw dy' Sul oedd diwrnod golchi'r criw; a dyna lle'r oedd rhai o honynt wrthi'n brysnr—un yn golchi ei grys, un arall yn golchi ei 'sane, ac un arall yn golchi ei gorff ei hun, oedd fryntach na'i grys na'i sane. Gan nad oedd yr arogl a ddeue odd'no'n ddymunol iawn i'r ffroene, mi a ddychweles i'm caban, ac a dreulies y gweddill o'r dydd yn cydaddoli o ran yr ysbryd â'm pobl fy hun gartre'.