dilyn yn ffyddlon. Chwareua haid o bysgod y gelwir "porpoesied" arnynt yn ymyl trwyn y llestr. Neidiant o'r dw'r y naill ar ol y llall, yn cael eu blaenori gan borpoesyn mwy na'r cyffredin; desgrifiant haner cylch yn yr awyr ar eu taith, yna plymiant i'r dyfnder drachefn, gan fyn'd drwy'r un chware'r ochr arall. Bum yn gwylio'r rhai hyn am orie bwy gilydd. Yn y cyfamser, ele llonge erill heibio i ni, ager a hwyl—rhai yr un ffordd, a rhai i'n herbyn. Ha! dacw hen drampes fel nine ychydig o'n blaen, gafodd gwarter awr o fantes arnom wrth gychwyn o'r Bari. Yr ydym wedi enill arni, a dyma hi'n "râs." Mae ei thanwyr yn cael gorch'mynion i lanw'i berwedyddion â glo, a chw'da fwg du, tew, allan o'i gene' nes cuddio'i hun o'r golwg. Gwnawn nine'r un fath, nes peri imi dybied am foment fy mod y'nghanol gwaith Dowles. Erbyn i'r mwg glirio, 'ro'em ar y blaen i rywle. Caed aml i brofion ar hyd y daith taw gwaith anodd oedd curo hon gan longe o'r un dosbarth a hi. Nid llawer o gyffröade sy' mewn bywyd ar fwrdd llong o'r natur yma; ond mae rhedeg râs â llong arall yn sicr o fod yn un o honynt.
Yr ail nos mi dreulies y dog-watch ar y bont y'nghwmni'r ail swyddog. Ymestyna'r wyliadwrieth yma o chwech i wyth. Mae'r gwyliadwriaethe erill yn beder awr bob un. Sut y daw hon i fewn, nid wyf yn gwybod, na pha'm y gelwir hi dog-watch. Buont yn ceisio esbonio'r