Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaenaf i mi, ond mae'r bai naill ai ar fy neall neu ar fy nghôf. Ni wyddent yr olaf eu hunen, felly, ni ddisgwylir i mi ei wybod. Gallaf ddych'mygu, ond nid 'grifenu dych'mygion wyf, eithr ffeithie. Yr o'wn wedi gwneud darpariade heleth ar gyfer y ddwyawr ar y bont; a phe gwelech fi, gwn y bydde'n naturiol i chwi gredu fy mod ar y ffordd i'r Pegwn Gogleddol. Côt fawr dros fy nghôt isa', a chôt ar gyfer gwynt a gwlaw dros hono drachefn, a choleri'r tair i fyny fel tair catrod. Menyg tewion am fy nwylo, a chap blewog am fy mhen. Yr oedd gan y cap glustie, ac yr oedd gen ine glustie, a gwasanaethe'r naill i amddiffyn y lleill. Rhwng pobpeth, yr o'wn mor gysurus a phe b'aswn wrth y stôf yn y caban. Cyn i'r wyliadwrieth dd'od i fyny, aeth un o'r llonge mwya' heibio i ni o fewn cwarter milldir; ac yr oedd yn ymddangos fel pentre wedi ei oleuo ar amser rhïolti.

Pan y ceisies godi'r ail fore', methwn a dyfalu beth oedd yn bod. Ni fu'r fath helynt erioed ar ddyn yn ceisio d'od o'i wely; ac erbyn y cofiwch fod y "bwnc" y gorweddwn ynddo gryn bellder o'r llawr, golyge anturieth bwysig.

"Mae'r bendro arnaf," meddwn; "neu 'rwy' wedi tori 'nirwest heb wybod i mi fy hun."

Ond mi ddigwyddes edrych drwy'r ffenest' fach, a mi weles fod y môr wedi codi hefyd, a thrafferthed a mine wrth y gorchwyl. Yr oedd fel pe bai'n ddig wrth yr hen long am ei aflonyddu'n rhy fore'—fel y byddwn ine wrth y