Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'stiward ambell dro; ac ysgydwe hi'n enbyd—fel y bygythiwn ine wneud i'r 'stiward. Wedi do'd drwy'r anhawsdere o wisgo a 'molchi, mi gerddes mor barchus ag y medrwn i'r dec, ac yno mi ddealles ein bod wedi myn'd i mewn i'r Bau Mawr rywbryd yn y nos, a'n bod wedi myn'd gwarter y ffordd drwyddo. Yr oedd y gwynt o'r gogledd-ddwyren, ac yn fwy o help ini nag o rwystr. Ond, O'r symudiade! Yr oedd gwel'd y llong yn cusanu'r dw'r hyd ei rhagfurie, a'r tone'n neidio drostynt, y mynydde dyfrllyd yn erlid ar ein hole, a'r pantie dyfnion a grëid gan y sugndyniad, Chips yn cael ei ddala'r ochr yma, a'i wlychu at y croen, a'r 'stiward yn gwylio'i gyfleusdra'r ochr arall, ac yn dïanc â chroen ei ddanedd—yr oedd bod yn dyst o'r golygfeydd hyn a'u cyffelyb am haner awr cyn brecwast yn gosod y prawf llymaf ar f'ystumog a'm calon. Dyma'r bore' y daeth y "crwth" i'r ford gynta'. "Dal llygoden a'i bwyta" oedd y drefn ar bryd bwyd bellach, a'r "dal" yn fwy o gamp na'r bwyta. Dyma fel y bu drwy'r dydd, a dyma fel y bu drwy'r nos wed'yn. Nid af i gelu fod braw arnaf, ond dim salwch. D'wedir i mi pan fo salwch nad oes dim braw. P'run yw'r gwaetha', nis gwn. Ni dd'wedaf chwaith sut y treulies y nos hono, rhag crechwenu o'r Philistied. Ond ganol dydd dranoeth yr o'em wedi myn'd drwy'r Bau, ar ol haner cant o orie gerwin eu gwala. Bellach, dyma "Wlad yr Haul" yn y golwg.