Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VII.

FY NYDDIADUR.

 AR draul ail-adrodd fy hun—yr hyn yw fy "mhechod parod" wrth siarad a 'sgrifenu—gosodaf yma ddarne o'm dyddiadur. Mae hwnw'n siwr o fod mor agos i'w le o ran cywirdeb a dim sydd wedi ymddangos, ac a ymddengys eto. I dreulio'r uwd a'r pytatws a gawswn i frecwast, y peth cynta' wnawn oedd 'sgrifenu ar fy nyddiadur, oni fydde'r hen long yn bechadurus o ansefydlog; ac af yn feichie dros y nodiade sydd ynddynt, eu bod yn adlewyrchiade gonest o'r hyn a weles, a glywes, ac a deimles drwy'r holl helyntion. Chwi gofiwch fy mod yn 'sgrifenu ddiwrnod ar ol y dyddiad a geir.

DYDD SADWRN, CHWEF. 23AIN.—Y'nghanol y Bê Bisce. Wedi myn'd drwy ran o hono neithiwr, dïolch am hyny. Yn weddol o dawel drwy'r bore', ond ar ol haner dydd dechreuodd y tone guro ar y llong, a'n hanes wed'yn oedd ymsuddo ac ymrolio hob yn ail—weithie o ben i ben, bryd arall o ochr i ochr—a'r dw'r yn golchi dros y dec yn gyfrole trwchus. Felly