Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am y gweddill o'r dydd, ac ar hyd y nos—ond nid oedd blas gennyf i ganu'r hen alaw. Bwyta mewn gefyne. Pawb fel wedi meddwi, a'r hen long y'nghanol ei bloddest. Lle rhyfedd yw'r bau hwn: y mae fel pytae pobpeth o chwith yma. Pysgod y'neidio allan o'r dw'r, ac adar y'myn'd dros eu pene iddo. Porpoesied yw'r naill, a gwylanod yw'r lleill. Mor falch yw'r gwyliedydd i wel'd yr haul yn d'od i'r golwg pan y mae'n gymylog! Mae'r haul yn cadarnhau'r cyfeiriad. Ond pan na bo haul, na lloer, na seren yn y golwg, mae'r cwmpas ganddo o hyd. Gŵyr y mordeithwyr ysbrydol am rywbeth tebyg.

"Tywydd da yw hwn," ebe'r ail swyddog.

"O'r anwyl! beth am y drwg, ynte?" meddwn wrtho.

Ofn nad oes dim llawer o gysgu heno eto. Dim gogwydd at selni mor belled. Dywed y cadben wrthyf fy mod yn un o fil. Mỳn y 'stiward fy mod wedi camgymeryd fy ngalwedigeth—taw morwr ddylaswn fod. Yr wyf o'r un farn ag e' weithie' am y cynta', ond yn ame'r ola'n fawr. Beth dd'wede pobl Bethania, tybed?

DYDD SUL, Y 24AIN.—Codi am saith. Y llong yn chware'i phrancie o hyd, y môr yn tori drosti, a phawb ar y dec yn wlyb dyferu. Eto, dyma dywydd cyffredin y Bê Bisce! Fel hyn y budrwy'r bore'; ond erbyn canol dydd yr o'em wedi dianc o'i grafange. Ysgyrnygu ei ddanedd arnom yr oedd y crëadur yn y bore'n ddiame genyf,