Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ein gwel'd yn ffoi o'i derfyne. Gobeithio'r anwyl na cheidw'i ddialedd nes y dychwelwn. Wedi cael tir Sbaen rhyngom a nerth y gwynt, aeth yn dawelwch mawr. Ac O! brydnawn Sul. Haul clir, tanbed, ffurfafen ddigwmwl, môr didone, a'r llong yn cerdded drosto fel boneddiges y'nhraed ei 'sane—ardderchog, a d'we'yd y lleia'. Y tir o gwmpas Corunna ddaeth i'r golwg gynta'. Cofio am Syr John Moore, a'r farwnad anfarwol a wnaed iddo gan y Parch. Charles Wolfe. Gorffwysdra i'r llygad oedd gwel'd tamed o dir ar ol y fath dafell o fôr. Dacw'r arfordir gorllewinol i lawr hyd Benrhyn Finisterre. Cawsom engraff o ddïogi'r Sbaenied yn y Penrhyn hwn. Mae yma orsaf i dderbyn arwydd llonge. Codasom yr arwyddion arferol, ond ni ddaeth arwydd yn ol mewn atebiad; a thynge'r cadben (nid yn gableddus) taw cysgu oedd y tacle. 'Doedd dim perswâd ar yr ail beirianwr na chlywse hwy yn chw'rnu'r pellder hwnw! Mynyddig a garw yw'r darn yma o dir Sbaen. Collasom ef yn fuan, a disgwyliwn wel'd tir Portugal 'fory.

DYDD LLUN, Y 25AIN. Bore' heddyw disgynodd fy llyged ar dir Portugal. Mor wahanol i dir Sbaen! Yn lle mynydde uchel a geirwon yn codi'n syth o'r môr, ceir yma ffermdai a phentrefi bychen a mawrion i'w gwel'd y'mhob man. Caëe a gwinllane, perllane ac olewydd-lane ar lechwedde'r brynie, a'r mynydde draw yn y pellder yn dir cefn iddynt. Pentrefi pysgota ar