Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y làn, a thraethe swynol o dywod gwỳn a chaled yn dysgleirio'n yr haul. Lle braf i fyn'd a phicnic Ysgol Sul am brydnawn. Hwyrach taw'r ffordd fydde dipyn y'mhell o Gwm Rhondda. Yr oedd yn ddiweddar yn y dydd pan weles gyffinie Lisbon. Yr oedd y ddinas ei hun yn llechu o'r golwg i fyny'r afon Tagus. 'Roedd hafdy'r brenin yn sefyll ar fan amlwg iawn, yn union uwchben y ddinas, mi allwn dybied. Adeilad mawr gwỳn ac unffurf ydoedd, yn pregethu llai o gysur na bwth Beti New Cross ar dir y Godor, mi wna' lw. Ar y dde' mae tair neu beder o greigie daneddog yn codi'n ddirybudd o ganol y dyfnder. Creigie'r Birlings y gelwid hwy. Mae dim ond edrych arnynt yn ddigon i'ch argyhoeddi eu bod yn beryg' i longe, 'nenwedig ar amser niwl. Yn agos i'r fan yma y collwyd llong fawr berthyne i'r Anchor Line. Dacw Benrhyn Espechel, lle cawsom yr arwydd. Ar bigyn ucha'r mynydd fan draw mae lleiandy aruthrol—y mwya'n y byd, medde nhw. 'Roedd ei adeiladu'n golygu llafur blynydde i rywrai. Un o olygfeydd mwya' dymunol y darn yma o'r byd yw y bade pysgota tlws a syber sy'n dawnsio o'n deutu, Mi weles sgoroedd o honynt heddyw, a rhedent o flaen yr awel mor ysgafn-droed a'r awel ei hun. Cyfarfyddasom â llong ryfel, a chyfarchasom hi. Dychwelodd hithau'r cyfarchiad yn foneddigaidd ei gwala. Mae'r môr mor dawel â Llyn Tegid ganol ha', a thripia'r llong yn llawn mursendod drosto.