Cyredd gyferbyn â Phenryn Rocca cyn nos. Y tir yn cilio eto, ac nis gwelwn ef mwy hyd y bore'. Dïolch i Dduw am ei amddiffyn.
DYDD MAWRTH, Y 26AIN.—Tybies fod rhywun yn curo'r ffenest' pan o'wn rhwng cysgu a deffro. Beth oedd ond gwlaw! Bysedd y gawod a'm dihunodd. Bu'n gwlawio'n drwm drwy'r bore'. Mae gwlaw a niwl yn cydgyfeillachu ar y môr: anaml y ceir y naill heb y llall. Diflas yw bod ar dir pan y mae'n bwrw gwlaw; diflasach yw bod ar y dw'r. Ond daeth yn deg cyn cinio, a pharodd yn deg drwy'r dydd. Cryfhaodd yr haul, a chryfhaodd y gwynt o'r tu ol ini, nes peri i'r llestr siglo'n enbyd ar brydie. Tir yn y golwg, ond yn rhy bell i wneud fawr o hono. Pasio heibio i leoedd a hanes iddynt, megis St. Vincent a Trafalgar. Mae'r hen long yn cael côt newydd o baent y dyddie hyn—nid rhyfedd ei bod mor rodresgar ei symudiade.
DYDD MERCHER, Y 27AIN.—Wedi myn'd drwy Gulfor Gibraltar yn y nos—yn hytraeh, dri o'r gloch y bore'. D'wede'r cadben wrthyf fod y llong wedi teithio'n gyflymach o'r Bari i'r Gib nag y gwnaethe' 'rioed o'r blaen. Mor garedig yw'r Llywodraethwr Mawr ini! Mae'r Hwn sy'n cadw'r gwynt yn ei ddwrn yn ei ollwng allan yn dameidie cysurus, a'r Hwn gerddodd ar y tone gynt yn cerdded arnynt eto. Dyma Fôr y Canoldir o'r diwedd! Y Môr Mawr! Môr yr Apostol Paul! A'r môr y taflwyd Jona' 'styfnig iddo! Onid yw yn llawn swyn i'r efrydydd Beiblaidd? Mae ei ddyfroedd yn loew