ac yn lâs heddyw, a'i dòne'n fân ac yn fuan. Yr ydym bellach y'mordwyo tua'r dwyren—o'r blaen tua'r de' y mordwyem. Mae fy wyneb yn awr tua chodiad haul. Dacw dir Affrig yn y golwg i'r dde', a thir Sbaen yn y golwg i'r aswy. Mynydde uchel, a'u coryne'n wynion gan eira. Dilynant ni am dros gan' milldir. Mae golygfa fawreddog i'w chael arnynt. Sylles yn hir ar y cyfandir tywyll, a cheisiwn adgofio pob emyn ac adnod a dd'wedent rywbeth am dano.
Mi ro'is dro yn y tŷ peiriant cyn myn'd i gysgu, o dan arweiniad yr ail beirianwr. Teithies dan y dec o'r naill ben i'r llall. Ni fum mewn gwlad ryfeddach erioed. Dyma lle mae cyfnewidiad hinsodde! Ceir y gwynt oera' a'r gwres mwya' llethol am y drws i'w gilydd. Mae yma bob sicrwydd dynol am ddiogelwch. Ele iase drosof pan ddechreuwn feddwl taw dim ond ychydig droedfeddi oedd rhyngof a'r dyfnder du; ac yr oedd llaib y dw'r yn ymyl fy nhroed yn gwneud imi oeri a chw'su bob yn ail. Cyn dychwelyd i'r dec, cymeres stoc o'r tanwyr y'ngole'r ffwrneisie. 'Roedd eu düwch, a'u meindra, a'u taldra, a'u noethder yn eu trawsffurfio'n ellyllon mewn ymddangosiad. Wedi eu gwel'd wrth eu gwaith, nid o'wn yn synu mwyach eu bod mor sychedig.
Mae'n ddiwrnod ardderchog, a'r haul yn ei ogoniant. Mae'r awyr eisoes yn gliriach nag awyr Pryden. Erbyn diwedd y dydd, yr ydym wedi gosod dros dri chant ar ddeg o filldiroedd rhyngom a'r Hen Wlad.